P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Osian Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 5,386 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mewn nifer o ardaloedd gwledig a thwristaidd y mae cyfran helaeth o drigolion yn cael eu hamddifadu o gartrefi am fod prisiau tai wedi eu chwyddo gan y galw am ail gartrefi a thai gwyliau. Gallai'r Prif Weinidog gyfarwyddo Gweinidogion priodol i gychwyn trafodaethau ar frys gydag Awdurdodau Lleol i lunio strategaeth i sicrhau fod rheolaeth gan gymunedau ar y farchnad dai yn bennaf trwy ddiwygiadau yn y drefn gynllunio
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Arfon
· Gogledd Cymru